A wnaiff y Comisiwn esbonio sut y mae ei arfer o beidio cyhoeddi trawsgrifiad llawn o drafodion pwyllgor yn Gymraeg fel ag y gwneir yn Saesneg yn cydymffurfio gydag adran 35(1)(c) Deddf Llywodraeth Cymru 2006?
Adam Price AS ar ran Comisiwn y Senedd
Nid yw adran 35(1)(c) yn rhoi dyletswydd ar y Senedd i gyhoeddi trawsgrifiadau dwyieithog o drafodion cyfarfodydd pwyllgor.
Nodir fel a ganlyn yn adran 35(1)(c):
“(1C) Reports of Senedd proceedings must, in the case of proceedings which fall within section 1(5)(a) (proceedings of the Senedd), contain a record of what was said, in the official language in which it was said, and also a full translation into the other official language.”
Yn unol ag adran 35(1)(c), dim ond trafodion sydd o fewn y diffiniad a roddir yn adran 1(5)(a) y mae angen eu cyfieithu’n llawn.
Yn adran 1(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006), nodir fel a ganlyn:
“(5) In this Act “Senedd proceedings” means any proceedings of—
(a) the Senedd,
(b) committees of the Senedd, or
(c) sub-committees of such committees.”
Mae adran 1(5)(a) yn ymwneud â thrafodion y Senedd yn unig h.y. y Cyfarfod Llawn. Nid yw’n cynnwys trafodion pwyllgorau neu is-bwyllgorau, sy’n cael eu diffinio’n glir yn adrannau 1(5)(b) ac (c) o Ddeddf 2006, yn y drefn honno. Nid oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol ar y Senedd felly o dan adran 35(1)(c) i gyhoeddi trawsgrifiadau llawn o drafodion pwyllgorau yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Yn unol ag adran 35(1)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, caiff Cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn gan gynnwys cyfieithiad i Gymraeg o gyfraniadau a wnaed yn Saesneg ei gyhoeddi o fewn 3 diwrnod gwaith.
Mae’r Comisiwn wedi cytuno i ystyried adolygu’r fframwaith cyfreithiol yn ymwneud ag ieithoedd swyddogol wrth baratoi at y seithfed Senedd.