WQ93599 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet restru'r awdurdodau lleol y mae hi'n gwybod amdanynt sydd wedi cyhoeddi gwybodaeth am y refeniw ychwanegol sydd wedi'i godi yn sgil codi premiymau treth cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet | Wedi'i ateb ar 05/08/2024

Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i gyhoeddi manylion ar eu gwefannau ynghylch yr incwm a gynhyrchwyd o godi premiymau yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Rydym yn ymwybodol, hyd yma, o'r 15 awdurdod lleol sydd wedi codi premiymau’r dreth gyngor mewn blynyddoedd ariannol blaenorol, fod y canlynol wedi cyhoeddi'r wybodaeth hon. (Mae'r wybodaeth ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd.)

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyngor Sir Powys

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Abertawe

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Caerdydd