Faint o bobl sydd wedi manteisio ar y cynllun Cymorth i Aros hyd yma?
Lansiwyd y cynllun Cymorth i Aros Cymru ym mis Tachwedd 2023 ac mae'n cynnig cymorth i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu eu morgais. Mae'r cynllun yn cynnig cymorth i berchnogion tai ar ffurf benthyciad ecwiti a rennir, fodd bynnag, mae yn annog aelwydydd i geisio cyngor ar ddyledion am ddim. I'r rhai sy'n gymwys am y cynllun darperir cymorth hefyd drwy Gynghorydd Ariannol Annibynnol a fydd yn cynnal asesiad ariannol.
Hyd yn hyn, derbyniwyd 56 o geisiadau ar gyfer y cynllun, mae 5 aelwyd wedi elwa o'r rhaglen, gyda 7 arall wedi'u cymeradwyo ac yn symud ymlaen i'w cwblhau. Fodd bynnag, mae'r cynllun hefyd wedi annog nifer o aelwydydd i ofyn am gyngor am ddim ar ddyledion a allai fod wedi cynnig ateb amgen i ddiwallu eu hanghenion.