WQ93542 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2024

Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 gyda golwg ar gryfhau hawliau sylfaenol cleifion sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 25/07/2024

Yn unol â’r cynllun Mwy na geiriau 2022-27 byddwn yn cynnal arolwg gyda darparwyr gofal sylfaenol i ddeall effaith y dyletswyddau ynghylch y Gymraeg. Bydd canfyddiadau'r arolwg yn cael eu defnyddio i arwain mentrau a fydd yn ceisio gwella ac ehangu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys a oes angen adolygu rheoliadau 2019. Y bwriad yw dechrau'r arolwg tua diwedd 2024.

Yn ogystal, bydd ymchwil ansoddol ategol yn cael ei chynnal er mwyn:

  • Deall sut y mae dyletswyddau iaith yn cael eu gweithredu a'r Cynnig Rhagweithiol yn cael ei ddarparu mewn gofal sylfaenol.
  • Archwilio effaith dyletswyddau ynghylch y Gymraeg ar ddarparu'r Cynnig Rhagweithiol mewn lleoliadau gofal sylfaenol.
  • Asesu heriau a/neu hwyluswyr o ran gweithredu dyletswyddau a'r cymorth sydd ei angen.
  • Nodi unrhyw enghreifftiau o arferion da ar ffurf astudiaethau achos.