WQ93497 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/07/2024

A wnaiff Comisiwn y Senedd amlinellu pryd y bydd dau ddrws Tŷ Hywel yn gweithredu'n llawn, a'r costau sy'n gysylltiedig ag atgyweirio'r drysau dros y flwyddyn ddiwethaf?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 20/08/2024

Ar hyn o bryd, mae dau ddrws Tŷ Hywel yn gweithredu’n llawn.  Mae un o’r drysau wrth fynedfa Tŷ Hywel wedi’i gloi yn ystod cyfnodau tywydd garw i leihau problemau gyda drafftiau yn nerbynfa Tŷ Hywel ac i gynnal amgylchedd gwaith cyfforddus i Aelodau, ymwelwyr a staff yno.

Oherwydd y cyfnod estynedig o dywydd garw a gafwyd hyd yn hyn eleni, mae’r drws hwn wedi’i gloi am gyfnod hwy na’r arfer ond, pryd bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn sicrhau bod y ddau ddrws ar agor ac yn weithredol.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, gwnaed un atgyweiriad i un o’r drysau i amnewid clo diffygiol a gostiodd £261.42.