WQ93452 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2024

Ymhellach i WQ93403, beth yw'r rhesymeg sy'n sail i'r polisi o atal myfyrwyr rhyngwladol rhag gwneud cais?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 18/07/2024

Mae'r nifer cychwynnol sy’n cael eu derbyn i Ysgol Feddygaeth y Gogledd yn seiliedig ar gynnydd graddol mewn niferoedd, nes bydd yr Ysgol yn cyrraedd ei chapasiti llawn ym mlwyddyn academaidd 2029/30.

Ym mis Medi 2021, fe wnaethom ni gytuno i sefydlu Ysgol Feddygol annibynnol yn y Gogledd, gyda'r nod o:

• gynyddu nifer y graddedigion meddygol lleol

• ehangu mynediad i yrfa feddygol i bob cymuned

• gwella gofal i siaradwyr Cymraeg drwy sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn graddio mewn meddygaeth.

Byddai derbyn myfyrwyr meddygol rhyngwladol yn lleihau gallu'r Ysgol i gyflawni'r nodau hyn a byddai unrhyw fyfyrwyr rhyngwladol yn cymryd rhai o’r lleoedd sy’n cael eu hariannu, yn hytrach nag yn ychwanegu rhai newydd.

Eleni roedd 19,130 o ymgeiswyr o'r DU ar gyfer Meddygaeth, a dim ond 700 (3.6%) ohonynt yn hanu o Gymru.

Gallai’r Ysgol ddewis caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol wneud cais yn y dyfodol, unwaith y bydd y rhaglen wedi’i sefydlu.