A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ble y gellir dod o hyd i lythyrau blynyddol gan Weinidogion Cymru at Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf yn manylu ar ei ofynion ar gyfer addysg gychwynnol athrawon ac os nad ydynt ar gael a wnaiff gyhoeddi’r llythyrau hyn?
Gellir gweld trosolwg o brosesau Llywodraeth Cymru ar gyfer recriwtio i raglenni addysg gychwynnol athrawon (AGA) sy'n arwain at statws athro cymwysedig (SAC) yn https://www.llyw.cymru/proses-recriwtio-addysg-gychwynnol-athrawon.
Mae'r dudalen we hon yn cynnwys y llythyr blynyddol diweddaraf gan fy swyddogion at Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ynghylch nifer y lleoedd sydd eu hangen yng Nghymru ar gyrsiau AGA sy'n arwain at SAC. Gellir dod o hyd i'r llythyr yma: https://www.llyw.cymru/recriwtio-hyfforddiant-athrawon-2024-llythyr-i-gyngor-y-gweithlu-addysg-cga.
Mewn blynyddoedd blaenorol roedd CCAUC ac wedyn CGA yn cyhoeddi'r llythyr blynyddol hwn ar eu gwefannau, fel y corff achredu AGA yng Nghymru (ar yr adeg dan sylw). Eleni, er mwyn gwella tryloywder, cyhoeddwyd y dudalen we ynghylch y prosesau recriwtio AGA ar llyw.cymru, gyda dolen i'n llythyr blynyddol at CGA. Bydd dolen i'r llythyr mwyaf cyfredol gan fy swyddogion i'r CGA yn parhau i gael ei chynnwys ar y dudalen hon.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gyhoeddi llythyrau'r blynyddoedd blaenorol a ddarparwyd gan CGA. Bydd fy swyddogion yn hapus i ddarparu’r rhain yn uniongyrchol os hoffech eu cael.