Ymhellach i WQ93262 a'r cadarnhad ynddo nad yw data ar gamesgoriadau’n cael ei gasglu'n ganolog ar gyfer y Deyrnas Unedig, a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o unrhyw lywodraeth arall yn y Deyrnas Unedig sy'n casglu'r data ar gyfer eu gwledydd nhw?
Roedd GIG Lloegr yn cyhoeddi nifer y camesgoriadau a arweiniodd at arhosiad mewn ysbyty bob blwyddyn rhwng 1997-98 a 2022-23 yn rhan o’i gyfres NHS Maternity Statistics. Dim ond y rhai a aeth i ysbyty i gael triniaeth ar gyfer camesgoriad y mae’r ystadegau hyn yn eu cynnwys; nid ydynt yn cynnwys y rhai nad aeth i ysbyty, y rhai a gafodd eu trin gan eu meddyg teulu neu yn y gymuned na’r rhai a gafodd gamesgoriad yn gynnar iawn mewn beichiogrwydd.
Mae’r sefyllfa’n debyg ar gyfer Gogledd Iwerddon; dim ond pan fo rhywun wedi cael ei dderbyn i ysbyty oherwydd camesgoriad y mae data ar gael. Mae’r data hyn ar gael yn y cyhoeddiad ‘Acute episode based activity’.
O ran yr Alban, mae data ar gael hyd at 2016 ar gyfer achosion o gamesgoriadau a gafodd eu trin mewn ysbyty fel claf mewnol neu achos dydd. Daethpwyd â’r ystadegau hyn i ben ar ôl 2016 oherwydd pryderon ynghylch ansawdd y data yn ymwneud â newidiadau yn y ffordd o reoli camesgoriadau. Mae Iechyd Cyhoeddus yr Alban yn gweithio i wella gwybodaeth am gamesgoriadau yn yr Alban.