WQ93409 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet egluro sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu cyllid ychwanegol i ddiogelu a chadw trysorau cenedlaethol Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 24/07/2024

Hoffwn eich cyfeirio at y cyhoeddiad a wnaeth cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ar 10 Gorffennaf a'i sesiwn dystiolaeth ddilynol gyda'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol 10/07/2024 - Senedd Cymru.