WQ93406 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2024

Ar sawl achlysur yn dilyn derbyn adroddiadau monitro y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Bartneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o’u gweithredoedd i fodloni targedau recriwtio athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 19/07/2024

O flwyddyn academaidd 2020/21 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ofyniad i bartneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) weithio tuag at recriwtio 30% o'u myfyrwyr i raglenni AGA cyfrwng Cymraeg. Hysbyswyd Partneriaethau AGA y gallai fod angen iddynt ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o'u camau i gyflawni hyn os na cheir tystiolaeth o gynnydd.

Gwnaeth hyn gyd-daro â phandemig Covid-19 a wnaeth amharu'n ddifrifol ar raglenni AGA a golygu y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddiwygio neu ddatgymhwyso gofynion penodol er mwyn sicrhau bod modd parhau i ddarparu AGA. Rydym wedi parhau i fonitro'r lefelau recriwtio ar gyfer AGA gan gynnwys y rhai sy'n ymgymryd â rhaglenni cyfrwng Cymraeg.

Mae'n ofynnol i bob Partneriaeth AGA fod â strategaethau cyfrwng Cymraeg ar waith o dan Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg | llyw.cymru) a Rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon: meini prawf achredu | llyw.cymru

Er bod cynnydd bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr ar gyrsiau AGA cyfrwng Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym yn cydnabod yr heriau parhaus o ran recriwtio i raglenni AGA cyfrwng Cymraeg ac yn parhau i weithio gyda Phartneriaethau AGA a phartneriaid eraill i gynyddu'r recriwtio yn y sector hwn.