A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gyhoeddi'r ffigurau derbyn athrawon o 2020-21 ymlaen?
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bwletin ystadegol ar addysg gychwynnol athrawon (AGA) bob blwyddyn. Mae'r bwletinau hyn, sy’n cynnwys blynyddoedd academaidd 2020-21 a 2021-22, ar gael ar ein gwefan: https://www.llyw.cymru/addysg-gychwynnol-i-athrawon
Gellir ymchwilio ymhellach i ddata recriwtio AGA hyd at flwyddyn academaidd 2021-22 drwy wefan StatsCymru: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/teachers-and-support-staff/initial-teacher-education
Mae'r data recriwtio AGA sy'n sail i'r bwletin ystadegol, a'r data sydd ar gael ar wefan StatsCymru, yn cael eu darparu gan yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch (HESA) (https://www.hesa.ac.uk/). Mae'r data ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 wedi'u gohirio'n sylweddol ac mae swyddogion yn disgwyl i'r data gael eu darparu gan HESA yn ddiweddarach yn y flwyddyn galendr hon. Bydd y broses o gyhoeddi'r ystadegau AGA yn cael ei chwblhau unwaith y bydd y data wedi'u derbyn a'u prosesu gan fy swyddogion.
Disgwylir i’r ystadegau sy'n ymwneud â'r flwyddyn academaidd gyfredol (2023-24) gael eu cyhoeddi yn y flwyddyn galendr nesaf, os na fydd unrhyw oedi gan HESA wrth ddarparu'r data.