Pa fesurau y mae'r Comisiwn yn eu rhoi ar waith i atal cerbydau rhag segura ar ystâd y Senedd?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 23/07/2024
Janet Finch Saunders AS ar ran Comisiwn y Senedd: Nid yw ein hystad yn cynnwys unrhyw briffyrdd cyhoeddus, ond caiff ystod o gerbydau fynediad ati. Er bod y tîm cyfleusterau yn gwirio’r maes parcio bob dydd, nid oes unrhyw fesurau penodol yn eu lle ar hyn o bryd i atal cerbydau rhag segura ar ystad y Senedd.