Ymhellach i WQ93253, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau fesul blwyddyn faint o'r myfyrwyr o Gymru a fu'n aflwyddiannus yn cael eu derbyn ym Mhrifysgol Caerdydd a gafodd eu derbyn i astudio deintyddiaeth mewn prifysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
| Wedi'i ateb ar 04/07/2024
Nid yw'r wybodaeth honno ar gael, ac felly ni ellir ei darparu – hynny yw mewn perthynas â myfyrwyr a fu'n aflwyddiannus wrth ennill lle ym Mhrifysgol Caerdydd ac a aeth ymlaen i astudio Deintyddiaeth mewn mannau eraill.