WQ93255 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi y Papur Gwyn ar eiddo a rhenti teg?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 27/06/2024

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu ein hymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn a fydd yn cynnwys cynigion ar gyfer hawl i dai digonol gan gynnwys rhenti teg a dulliau newydd o wneud tai yn fwy fforddiadwy i bobl ar incwm isel. Bydd y Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi yn Hydref 2024.