WQ93254 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynnydd gyda pharatoi deddfwriaeth i gyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 24/06/2024

Bydd y Prif Weinidog yn nodi blaenoriaethau deddfwriaethol y Llywodraeth yn ei Ddatganiad Deddfwriaethol ym mis Gorffennaf. Bydd y ddadl flynyddol o dan reolau sefydlog sy'n ymwneud ag amcanion polisi a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn rhoi cyfle pellach i'r Aelodau ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.