WQ93253 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau yn achos pob un o'r pum mlynedd diwethaf a) faint o fyfyrwyr o Gymru wnaeth gais i astudio deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd; a b) o'r rheiny faint oedd yn llwyddiannus yn cael lle?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 26/06/2024

Mae’r tabl isod yn dangos y nifer o fyfyrwyr o Gymru a wnaeth gais i astudio deintyddiaeth yn Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, a faint ohonynt lwyddodd i gael lle, gan gynnwys cyfanswm y ceisiadau.

 

Blwyddyn

2024/25

2023/24

2022/23

2021/22

2020/21

Cyfanswm y ceisiadau

1752

1442

1131

863

698

Nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru

139

111

124

99

65

Cyfanswm llefydd i fyfyrwyr am bob blwyddyn1

I’w gadarnhau

79

73

822

62

Nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi cofrestru

Data ddim ar gael tan fis Hydref 20243

8

25

15

13

Data wedi’u darparu gan Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd

1 Y targed niferoedd blynyddol yw 74 o fyfyrwyr bob blwyddyn, er bod niferoedd yn amrywio rhywfaint o ganlyniad i fyfyrwyr yn methu a/neu’n ailsefyll blynyddoedd, neu’r rheini sy’n cymryd seibiant astudio, neu os yw unrhyw fyfyrwyr yn dewis gadael y rhaglen. 

2 Mae’r nifer uwch yma yn adlewyrchu cyfradd methiant uchel yn ystod blynyddoedd y pandemig. Cafodd y garfan hon anhawster addasu i’r amgylchedd arholiadau gan olygu fod mwy o fyfyrwyr nag arfer wedi ailsefyll y flwyddyn.

3 Mae cylch mynediad 2024 ar agor o hyd; nid oes modd cadarnhau niferoedd terfynol tan fis Hydref 2024 pan fydd y broses gofrestru wedi’i chwblhau.

 

Fe wnes i gwrdd â chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a’r Ysgol Ddeintyddiaeth yn gynharach eleni, i fynegi pryder am y nifer o fyfyrwyr o Gymru a lwyddodd i gael lle ar y cwrs Deintyddiaeth. Mae’r ysgol wedi cytuno i weithio i wella’r niferoedd hyn dros y blynyddoedd nesaf gyda’r bwriad o gyflawni’r nod o gael 40% o fyfyrwyr o Gymru dros amser. Roeddwn hefyd yn falch o glywed am y gwaith parhaus yn y rhaglenni estyn allan a chynlluniau mewn ysgolion yng Nghymru, fel y cynllun Deintyddion Yfory.