WQ93230 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau faint o lefydd prifysgol a) israddedig, a b) ôl-raddedig ychwanegol ar gyfer deintyddiaeth fydd yn cael eu creu yng Nghymru yn sgil y cynllun ar gyfer y gweithlu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 26/06/2024

Mae niferoedd myfyrwyr deintyddol israddedig yn cael eu comisiynu’n uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ysgol Ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Does dim cyfyngiad mympwyol ar niferoedd, gan fod niferoedd yn cael eu comisiynu’n seiliedig ar gapasiti o fewn y system i ddarparu addysg israddedig o safon uchel i’r myfyrwyr.

Nifer y llefydd i fyfyrwyr ar gyfer addysg israddedig mewn deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd yw 74 y flwyddyn – mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth academaidd, eu hyder a’u profiad a sgiliau clinigol, gan sicrhau profiad rhagorol i fyfyrwyr, a’u galluogi i ddilyn eu gyrfa ddewisol ar ôl graddio.

O ran y llefydd i israddedigion mewn prifysgolion, mae’r rhain yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Gynllun Comisiynu Addysg a Hyfforddiant, Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac yn ddibynnol ar y capasiti i ddarparu hyfforddiant a’r cyllid sydd ar gael.

Y swyddi hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd:

 

Rhaglen hyfforddiant

Nifer y swyddi hyfforddiant yn 2024-25

Hyfforddiant deintyddol sylfaenol

74

Hyfforddiant deintyddol craidd

67

Hyfforddiant deintyddol arbenigol

38

 

Hyfforddiant deintyddol sylfaenol: Bydd nifer y swyddi hyfforddiant deintyddol sylfaenol yn cael ei benderfynu drwy’r cyllid a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru ac yn cyd-fynd â’r allbwn gan Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Caerdydd.

Hyfforddiant deintyddol craidd: O ganlyniad i ehangu gwasanaethau deintyddol penodol mewn rhai byrddau iechyd, gellir darparu cyfle i hyfforddeion ychwanegol ymgymryd â hyfforddiant deintyddol craidd yn y dyfodol cyn belled bod cymorth a goruchwyliaeth priodol ar gael.

Hyfforddiant deintyddol arbenigol: Cynyddodd y llefydd hyfforddiant deintyddol arbenigol cymaint â 50% yn 2023 gyda’r buddsoddiad mwyaf hyd yma gan Lywodraeth Cymru yn y rhaglen hyfforddiant hon.