WQ93137 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y gwaith o dan ymrwymiad 23 y Cynllun Gweithredu LHDTC+ i ymchwilio opsiynau ar gyfer datblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 13/06/2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella'r llwybr Datblygu Hunaniaeth Rhywedd a'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru, yn unol â'r ymrwymiadau yn ein cynllun LHDTC+.

Nod Adolygiad Cass yw sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd neu'n profi dysfforia rhywedd, ac sydd angen cymorth gan y GIG, yn cael gofal o safon uchel sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n ddiogel, yn gyfannol ac yn effeithiol.

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad terfynol Cass ym mis Ebrill, rydym yn parhau i gael ein llywio gan y dystiolaeth er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau i anghenion pobl ifanc sy'n cwestiynu eu rhywedd.

Rydym yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd ar gyfer pobl ifanc gan NHS England ac mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn cael ei gynrychioli ar Fwrdd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Dysfforia Rhywedd yn Lloegr. Mae'r llwybr ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn cynnwys asesiad cyfannol gan CAMHS cyn eu cyfeirio at y gwasanaeth.

Mae gwaith y Rhaglen Trawsnewid eisoes wedi'i siapio gan ganfyddiadau adroddiad interim Cass (a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022), ac mae cynnydd da wedi'i wneud hyd yma. Mae hyn wedi cynnwys sefydlu dau wasanaeth rhywedd newydd i blant a phobl ifanc, a agorodd ym mis Ebrill. Bydd hyd at 8 o ganolfannau rhanbarthol yn cael eu comisiynu ac mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn gweithio gydag NHS England i ystyried sefydlu canolfan ranbarthol yng Nghymru. Mae'r cynnydd hefyd yn cynnwys sefydlu'r Bwrdd Ymchwil a Goruchwyliaeth Cenedlaethol ar gyfer Dysfforia Rhywedd Plant a Phobl Ifanc, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Simon Wessely.

Bydd y Cyd-bwyllgor yn awr yn gweithio gyda'r Rhaglen Trawsnewid wrth iddynt ddatblygu cynllun gweithredu ar ôl ystyried adroddiad terfynol Cass.

Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru wedi cyhoeddi'r nodyn briffio canlynol ynghylch cyhoeddi adroddiad terfynol Cass:

pgiac.gig.cymru/comisiynu/polisiau-whssc/rhywedd/gwasanaethau-anghydweddiad-rhywedd-arbenigol-gig-cymru-ar-gyfer-plant-a-phobl-ifanc-adroddiad-terfynol-adolygiad-cass/