Ar ba ddyddiad a thrwy ba gyfrwng y gwnaed cyhoeddiad i'r Senedd am benderfyniad y Llywodraeth i sefydlu comisiwn asedau cymunedol?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
| Wedi'i ateb ar 13/06/2024
Yn ystod y ddadl yn y cyfarfod llawn ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar Asedau Cymunedol ar 11 Ionawr 2023, cadarnhawyd fy mod i a'm cydweithwyr yn y cabinet, Rebecca Evans a Jane Hutt, wedi derbyn, mewn egwyddor, yr argymhelliad i sefydlu comisiwn.
Mae'r comisiwn ar ffurf grŵp gorchwyl a gorffen ac mae ei gylch gorchwyl a'i aelodaeth bellach yn cael eu cwblhau. Byddaf yn cyhoeddi datganiad cyn toriad yr haf, gan gadarnhau manylion penodol.