WQ93106 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2024

Faint o lefydd hyfforddi hyfforddiant deintyddol sylfaenol a hyfforddiant deintyddol craidd sydd ar gael yng Nghymru bob blwyddyn a beth yw'r niferoedd ar bob rhaglen fesul bwrdd iechyd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 13/06/2024

Mae 74 o leoedd Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae nifer y lleoedd sy’n cael eu cynnig a’u llenwi yn dibynnu ar nifer o ffactorau cyfnewidiol:

  • Bod digon o leoedd hyfforddi ar gael. (Mae practisau deintyddol y GIG yn gwneud cais i Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddod yn bractisau hyfforddi).
  • Nifer y dyraniadau Recriwtio Cenedlaethol i Gymru.
  • Nifer yr hyfforddeion presennol sydd angen estyniadau neu hyfforddiant adferol.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae cynllun recriwtio lleol â chymhelliant (Cynnig Recriwtio Uwch Cymru – WERO) wedi cael ei sefydlu i ddiogelu lleoedd hyfforddi mewn ardaloedd gwledig. Roedd hyfforddiant o dan fygythiad yn yr ardaloedd hyn oherwydd nad oedd lleoedd yn cael eu llenwi drwy’r broses Recriwtio Cenedlaethol.

Cafodd yr holl leoedd oedd ar gael eu llenwi a dangosir y nifer sy’n derbyn hyfforddiant ym mhob bwrdd iechyd isod.

 

Lleoedd Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol sydd ar gael ym mhob Bwrdd Iechyd:

Blwyddyn

BIPAB

BIPCTM

BIPC&F

BIPBA

BIPHDd

BIAP

BIPBC

Cyfanswm

23/24

8

18

7

18

6

4

9

70

24/25

5

18

8

16

7

4

9

67

 

Lleoedd Hyfforddiant Deintyddol Craidd sydd ar gael ym mhob Bwrdd Iechyd:

Blwyddyn

BIPAB

BIPCTM

BIPC&F

BIPBA

BIPHDd

BIAP

BIPBC

Cyfanswm

23/24

8

13

24

12

0

0

11

68

24/25

8

13

24

12

0

0

11

68