Faint o arian y mae myfyriwr unigol yn gallu ei gael drwy fwrseriaeth GIG Cymru bob blwyddyn?
Mae'r cymorth ariannol canlynol gan y GIG ar gael ar hyn o bryd i fyfyrwyr cymwys ar gyrsiau a ariennir gan GIG Cymru (gan gynnwys Myfyrwyr Meddygol a Deintyddiaeth yn eu blynyddoedd bwrsari):
- Cost ffioedd dysgu (£9,000 ar hyn o bryd)
- Grant o £1,000 heb brawf modd
- Bwrsariaeth gyda phrawf modd. Mae’r cyfraddau ar gyfer cwrs 30 wythnos i’w gweld yn y tabl canlynol:
Trefniadau Byw |
Swm y flwyddyn |
Mewn mannau eraill |
Hyd at £2,643 |
Cartref rhieni |
Hyd at £2,207 |
Llundain (Myfyrwyr Meddygol a Deintyddol yn unig) |
Hyd at £3,191 |
Mae lwfansau ychwanegol ar gael hefyd (yn dibynnu ar amgylchiadau unigolion), gan gynnwys lwfans wythnosau ychwanegol os yw'r cyrsiau'n ymestyn y tu hwnt i 30 wythnos, lwfans dibynyddion, lwfans dysgu i rieni, lwfans gofal plant a Lwfans Myfyrwyr Anabl. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr hefyd yn gallu cael cymorth ariannol gyda chostau lleoliad/ymarfer clinigol.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 bydd ein Myfyrwyr Bwrsariaeth GIG Cymru cymwys sy'n hanu o Gymru (gan gynnwys ein Myfyrwyr Meddygol a Deintyddiaeth yn eu blynyddoedd bwrsari) yn gallu cael mynediad hefyd at y swm llawn o fenthyciad cynhaliaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru, os ydynt yn dymuno.