WQ93094 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2024

Ymhellach i WQ92439, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio'r anghysondeb rhwng y cyfanswm yng ngholofn 2021-22 a nifer y myfyrwyr fesul prifysgol neu ddarparwr yn y rhesi?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 10/06/2024

Roedd yr wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i WQ92439 yn cynnwys y tabl isod a oedd yn dangos nifer y myfyrwyr o Gymru a oedd yn astudio deintyddiaeth y tu allan i Gymru a ble roeddent yn astudio.

Cofrestriadau myfyrwyr deintyddiaeth blwyddyn gyntaf sy’n hanu o Gymru, yn ôl darparwr (2019/20 i 2021/22)

 

 

 

2019/20

2020/21

2021/22

 

Prifysgol Bryste

10

10

5

 

Prifysgol Lerpwl

5

5

5

 

Prifysgol Birmingham

5

5

5

 

Prifysgol Plymouth

10

15

5

 

Darparwyr addysg uwch eraill y tu allan i Gymru

10

10

20

 

Darparwyr addysg uwch yng Nghymru

20

10

20

 

Pob un

60

55

65

 

 

Mae cyfanswm y ffigur ar gyfer 2021/22 yn gywir er ein bod yn cydnabod nad yw'n ymddangos felly – talgrynnu yw’r rheswm am hynny.

Er mwyn cael cyfanswm y ffigurau yn gywir, ychwanegir ffigurau sydd heb eu talgrynnu at ei gilydd cyn talgrynnu'r cyfanswm.