WQ93092 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2024

Pam nad yw myfyrwyr deintyddiaeth a meddygaeth sy'n dymuno derbyn bwrseriaeth GIG Cymru yn gorfod ymrwymo i barhau i weitiho yng Nghymru am gyfnod ar ôl ei dderbyn, yn wahanol i fyfyrwyr eraill megis nyrsio?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 13/06/2024

Rydym yn awyddus i ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer rhoi cymhelliant pellach i grwpiau nad yw’n ofynnol iddynt ar hyn o bryd i barhau i weithio yng Nghymru ar ôl iddynt raddio. Fodd bynnag, mae cymhlethdodau yn codi mewn perthynas â’n graddedigion Deintyddol a Meddygol, y mae’n ofynnol iddynt ymgymryd â Hyfforddiant Sylfaenol cyn iddynt gael eu cofrestru.

Dyma un o’r ystyriaethau a fyddai’n cael eu cynnwys wrth gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â bwrsari’r GIG yn y dyfodol.