Faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd bob blwyddyn?
Nid oes unrhyw gyllid yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i’r Ysgol Deintyddiaeth.
Mae Cynyddran y Gwasanaeth Deintyddol ar gyfer Hyfforddiant (SIFT) yn cael ei ddyrannu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyfer ariannu’r addysgu deintyddol i israddedigion yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i dalu am weithgarwch addysgu allgymorth sy’n cael ei ddarparu ledled Cymru. Mae taliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i’r Bwrdd Iechyd bob mis.
Roedd y dyraniad SIFT ar gyfer 2023-24 yn £12.943m, ac mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sydd yn ei dro yn rheoli llif y cyllid i’r Ysgol.
Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £0.820m i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel rhan o’i ddyraniad blynyddol craidd i gefnogi gweithgarwch SIFT ymhellach.