WQ93089 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2024

Ymhellach i WQ93009, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau beth yw'r gost o hyfforddi deintydd yng Nghymru pan gaiff costau sy’n gysylltiedig ag astudiaethau deintyddiaeth israddedig eu cynnwys, ac eithrio costau cynllun bwrsariaeth GIG Cymru a chymorth a roddir gan Gyllid Myfyrwyr Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 13/06/2024

Fel y disgrifiwyd yn WQ93090, mae dyraniad Cynyddran y Gwasanaeth Deintyddol ar gyfer Hyfforddiant (SIFT) yn 2023-24 sy’n cael ei dalu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn £12.943m. Yn ogystal â hyn, darperir hefyd daliad blynyddol fel rhan o ddyraniad craidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o £0.820m.

Yn ogystal â'r arian a ddyrannwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae Prifysgol Caerdydd yn derbyn Premiwm Pwnc Drud ar gyfer myfyrwyr deintyddiaeth. Mae’r premiwm yn cael ei weinyddu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil cyn hir). Mae’r dyraniad cyllid hwn yn cael ei wneud drwy Brif Grŵp Gwariant Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn talu costau mewn perthynas â chostau Addysg ychwanegol, sy’n cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Premiwm Pwnc Drud a gyfrifir ar sail y credydau yr ymgymerir â hwy sy’n ffurfio elfennau clinigol y cwrs.
  • Premiwm Pwnc Cost Uchel a gyfrifir ar sail y credydau yr ymgymerir â hwy sy’n ffurfio elfennau anghlinigol y cwrs.

Mae’r ddau bremiwm yn cydnabod bod y gost o gyflenwi darpariaeth yn y maes hwn fel arfer yn rhagori ar ffioedd dysgu’r myfyrwyr o £9,000.

Ym mlwyddyn academaidd 2023/24, roedd cyfanswm cyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer deintyddiaeth drwy’r ddau bremiwm yn £3.189m.

Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at y ffioedd dysgu sy’n cael eu talu drwy’r corff Cyllid Myfyrwyr Cymru, ac unrhyw incwm o ffynonellau eraill (gweithgarwch masnachol, er enghraifft) y gallai sefydliadau eu defnyddio fel cymhorthdal ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau i fyfyrwyr. Er mwyn cyfrifo’r gost fesul myfyriwr, mae cyfanswm y costau uchod wedi’i rannu yn ôl niferoedd y myfyrwyr, sy’n cyfateb i 385 o leoedd i fyfyrwyr ar draws pob blwyddyn astudio. Dylid nodi bod yr wybodaeth hon yn cael ei darparu o sawl gwahanol ffynhonnell ariannu sy’n cyfrannu at y costau cyffredinol.

Nid yw’r cyllid yn cael ei ddarparu ar gost unigol fesul myfyriwr, ond ar sail y dyraniadau blynyddol cyffredinol. Mae rhai rhagdybiaethau wedi’u gwneud felly, gan ddefnyddio cyfanswm nifer y myfyrwyr i gyfrifo costau unigol. Dim ond gan gadw’r cafeatau hynny mewn cof y dylid defnyddio’r ffigurau hyn.

Ym mlwyddyn academaidd 2023/24, roedd cyfanswm cyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn £3.189m, ar sail 385 o fyfyrwyr, sydd gyfystyr â £8,283 fesul myfyriwr. O ystyried natur anghylchol y lleoedd ychwanegol, bydd y costau yn amrywio ychydig flwyddyn ar ôl blwyddyn oherwydd bydd nifer y myfyrwyr yn rhan glinigol y rhaglen yn wahanol. Fodd bynnag, o ystyried mai bach yw’r niferoedd dan sylw, ychydig o amrywiad fydd.

At hynny, mae angen cynnwys costau darparu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol hefyd. Felly, mae’r costau yn cyfateb i tua £0.363m fesul myfyriwr ar gyfer y Rhaglen Safonol 5 Mlynedd i Israddedigion a £0.319m ar gyfer y rhaglen carlam 4 blynedd.

Amcangyfrifon yn unig yw’r ffigurau hyn ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw elfen o daliadau cymorth i fyfyrwyr na bwrsari’r GIG, gan gynnwys y cymorth ar gyfer ffioedd dysgu nac unrhyw un o’r costau ffioedd dysgu sy’n cael ei dalu yn uniongyrchol gan y myfyrwyr eu hunain.