WQ93088 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2024

Ai'r un yw'r cynllun 10 mlynedd y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet ato ym mharagraff 86 o gofnod y Cyfarfod Llawn ar 1 Mai 2024 a'r cynllun ar gyfer y gweithlu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 10/06/2024

Mae'r cynllun 10 mlynedd y cyfeiriais ato ar 1 Mai 2024 yn llawer ehangach na dim ond y gweithlu. Mae gwasanaethau deintyddol yng Nghymru yn wynebu heriau o ran y gweithlu, poblogaeth a chyllid, ac felly er bod datblygu a chynyddu'r gweithlu yn rhan allweddol o wella mynediad, rhaid inni ddechrau meddwl a chynllunio ar sail ehangach a thymor hwy os ydym am gyflawni ein nod cyffredinol o wella iechyd y geg yng Nghymru.

Dyna pam rwyf wedi gofyn i'r Prif Swyddog Deintyddol ymgymryd â darn o waith sy’n nodi heriau’r presennol a’r dyfodol o ran iechyd y geg yng Nghymru ac yn amlinellu atebion yn y tymor canolir a’r tymor hir a all fynd i'r afael â'r heriau hyn.