WQ93078 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2024

Pa leoliad neu leoliadau sydd dan sylw i ddarparu'r hyfforddiant i ymateb i ymrywmiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun gweithlu deintyddol i gomisiynu rhaglen gyfnewid ychwanegol blwyddyn o hyd yng Ngogledd Cymru ar gyfer hylenwyr deintyddol â diploma addysg uwch lefel 5?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 07/06/2024

Bydd Prifysgol Bangor yn darparu’r rhaglen hon. Does dim darpariaeth hyfforddiant na lleoliad hyfforddiant cyfredol i therapyddion deintyddol yng Ngogledd Cymru ac mae’r rhaglen hon yn bodloni’r angen hwn o ran cynyddu’r gweithlu.

Mae cyfleuster lleoliadau pwrpasol wedi’i sefydlu yn Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru ac yn cynnig lleoliadau i’r myfyrwyr hyn. Ar hyn o bryd does dim cyfleusterau hyfforddiant deintyddol eraill yng Nghymru a fyddai’n gallu cynnig yr hyfforddiant hwn heb fuddsoddiad sylweddol mewn offer a chyfleusterau deintyddol.