WQ93077 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2024

Faint o leoedd ychwanegol i hyfforddi deintyddion fydd yn cael eu creu o ganlyniad i gynllun gweithlu deintyddol newydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 07/06/2024

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) sy'n gyfrifol am hyfforddiant ôl-raddedig; ar gyfartaledd, mae 50% o raddedigion deintyddol Caerdydd yn gwneud eu blwyddyn gyntaf o hyfforddiant deintyddol sylfaenol yng Nghymru. Mae'r lleoedd sy'n weddill yn cael eu llenwi gan raddedigion o ysgolion deintyddol eraill.

Bydd unrhyw gynnydd mewn lleoedd hyfforddi sy’n cael eu comisiynu yn dibynnu ar ddata a modelu cadarn am y gweithlu ac mae ymrwymiad penodol yng nghynllun y gweithlu i "Ddatblygu modelau gweithlu deintyddol sy'n seiliedig ar anghenion a chynllunio senarios i lywio maint a ffurf y gweithlu, a chomisiynu addysg a hyfforddiant yn y dyfodol". Bydd hyn yn llywio maint a chyfansoddiad gweithlu'r dyfodol.

Yn ogystal, bydd cam gweithredu arall i "ddatblygu rhannu data dienw am y gweithlu a myfyrwyr i nodi lleoliadau cyflogaeth a chadw graddedigion yng Nghymru" yn dangos faint o raddedigion presennol Cymru sy'n aros yng Nghymru i weithio ar ôl graddio, a bydd hyn yn sicrhau llif cynaliadwy pellach ar gyfer gweithlu'r dyfodol ac yn rhoi gwybod faint o leoedd hyfforddi ôl-raddedig sydd eu hangen.

Mae'r gweithlu deintyddol yn cynnwys mwy na deintyddion ac mae sicrhau cymysgedd o sgiliau yn ddyhead clir o ran deintyddiaeth. Mae camau clir o fewn cynllun y gweithlu i gynyddu nifer y hylenwyr deintyddol a therapyddion deintyddol sy'n cael eu hyfforddi. Yn ogystal, rydym wedi ei gwneud hi'n bosibl i hylenwyr deintyddol a therapyddion deintyddol weithio o fewn contract deintyddol y GIG.