Ymhellach i WQ92784, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi amcan o’r amserlen ar gyfer rhoi diweddariad pellach i’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn unol â’r ymrwymiad i roi diweddariad i Aelodau yn ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 18 adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor ar y Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)?
Bydd diweddariad pellach ar ddatblygu a chydgysylltu ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn cael ei roi ar ôl toriad yr haf. Mae hyn yn dilyn diweddariad a ddarparwyd yn flaenorol mewn ymateb i argymhelliad 18 fel rhan o'r ymateb ysgrifenedig i argymhellion y Pwyllgor, ar 26 Ionawr 2024, a diweddariad mewn ymateb i WQ92784 a ddarparwyd yn flaenorol ar 15 Mai 2024. Fel y nodwyd yn yr ymateb i WQ92784, bydd cael Cydsyniad Brenhinol i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn garreg filltir bwysig i alluogi paratoi ymgyrchoedd o’r fath.