WQ93035 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/05/2024

Ymhellach i WQ92793, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau p’un a oes dyletswydd penodol ar i gynghorau cymuned gyhoeddi ar eu gwefannau manylion ymlyniad pleidiol cynghorwyr cymuned sydd wedi’u hethol yn enw plaid wleidyddol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 05/06/2024

Mae dyletswydd benodol ar gynghorau cymuned i gyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefannau ynghylch ymlyniad gwleidyddol (os o gwbl) eu haelodau. Nodir hyn yn adran 55 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.