Pa adroddiadau blynyddol sydd wedi’u cyhoeddi yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y strategaeth penodiadau cyhoeddus Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
| Wedi'i ateb ar 31/05/2024
Roedd y Strategaeth yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed. Mae gwaith y Strategaeth wedi parhau eleni gyda rhaglen hyfforddi (a ddaeth i ben ym mis Mawrth) gan gwmni Deep Insight Consortium a rhaglen gysgodi swyddi (sydd i fod i ddod i ben ddiwedd mis Awst). Yna byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi'r hyn sydd wedi'i gyflawni.