A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu fesul awdurdod cynllunio leol a) manylion yr amserlen ddisgwyliedig i adolygu a diweddaru eu cynlluniau datblygu lleol, a b) manylion ar gyfer hyd disgwyliedig cynllun datblygu lleol nesaf yr awdurdod dan sylw?
Mae’n rhaid i Gynlluniau Datblygu Lleol gael eu hadolygu bob pedair blynedd o’r dyddiad mabwysiadu. Mater i’r Awdurdod Cynllunio Lleol yw penderfynu, ar sail y dystiolaeth, a oes angen Cynllun Datblygu Lleol newydd. Fel rheol mae’r cynllun yn cwmpasu cyfnod o bymtheg mlynedd. Mae amserlenni manwl ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol ar gael ar wefan pob Awdurdod Cynllunio Lleol. Darperir isod grynodeb o’r sefyllfa bresennol.
Awdurdod Cynllunio Lleol |
Y Cynllun Presennol sydd wedi’i fabwysiadu |
Wedi Cychwyn Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol / Statws y Broses Adolygu
|
Cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd |
Caerffili |
Mabwysiadwyd ym mis Tachwedd 2010
|
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2020-2035 |
Rhondda Cynon Taf |
Mabwysiadwyd ym mis Mawrth 2011 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2022-2037 |
Blaenau Gwent |
Mabwysiadwyd ym mis Tachwedd 2012 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2018-2033 |
Cyngor Sir Penfro |
Mabwysiadwyd ym mis Chwefror 2013 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2017-2033 |
Cyngor Sir Ceredigion |
Mabwysiadwyd ym mis Ebrill 2013 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2018-2033 |
Cyngor Sir Ddinbych |
Mabwysiadwyd ym mis Mehefin 2013 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2018-2033 |
Conwy |
Mabwysiadwyd ym mis Hydref 2013 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2018-2033 |
Torfaen |
Mabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 2013 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2022-2037 |
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Mabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 2013 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2018-2033 |
Sir Fynwy |
Mabwysiadwyd ym mis Mawrth 2014 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2018-2033 |
Sir Gaerfyrddin |
Mabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 2014 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2018-2033 |
Casnewydd |
Mabwysiadwyd ym mis Ionawr 2015 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2021-2036 |
Castell-nedd Port Talbot |
Mabwysiadwyd ym mis Ionawr 2016 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2023-2038 |
Caerdydd |
Mabwysiadwyd ym mis Ionawr 2016 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2021-2036 |
Bro Morgannwg |
Mabwysiadwyd ym mis Mehefin 2017 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2021-2036 |
Gwynedd |
Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ym mis Gorffennaf 2017 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2024-2039 |
Ynys Môn |
Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ym mis Gorffennaf 2017 |
Adolygiad 4 blynedd ym mis Gorffennaf 2021 |
|
Powys |
Mabwysiadwyd ym mis Ebrill 2018 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2022-2037 |
Abertawe |
Mabwysiadwyd ym mis Chwefror 2019 |
Do – wrthi’n cael ei baratoi |
2023-2038 |
Parc Cenedlaethol Eryri |
*Mabwysiadwyd ym mis Mawrth 2019 |
Adolygiad 4 blynedd ym mis Mawrth 2023.
|
|
Merthyr Tudful |
*Mabwysiadwyd ym mis Ionawr 2020 |
Adolygiad 4 blynedd ym mis Ionawr 2024 |
|
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
*Mabwysiadwyd ym mis Medi 2020 |
Adolygiad 4 blynedd ym mis Medi 2024
|
|
Sir y Fflint |
Mabwysiadwyd ym mis Ionawr 2023 |
Adolygiad 4 blynedd ym mis Ionawr 2027
|
|
Wrecsam |
Mabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 2023 |
Adolygiad 4 blynedd ym mis Rhagfyr 2027
|
|
Pen-y-bont ar Ogwr |
*Mabwysiadwyd ym mis Mawrth 2024 |
Adolygiad 4 blynedd ym mis Mawrth 2028
|
|
* Yn dynodi bod Cynllun Datblygu Lleol newydd (‘Cynllun Datblygu Lleol 2’) wedi’i fabwysiadu |