WQ93011 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/05/2024

Beth fu cost sefydlu Ysgol Feddygol Abertawe a beth yw'r gost o'i chynnal fesul blwyddyn?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 03/06/2024

Pan sefydlwyd yr ysgol feddygol, byddai ymgodiad rheolaidd yn cael ei weithredu ar gyfer dyraniad craidd y bwrdd iechyd ar y pryd i’w chefnogi. Nid oes gan gydweithwyr cyllid fynediad mwyach at y llyfrau cyfrifon gan fod y system flaenorol wedi’i disodli. Serch hynny, mae hwn bellach yn gyfwerth â £2.98m y flwyddyn, yn sgil ymgodiadau dilynol yn unol â chwyddiant.

Nid yw’r ffigurau uchod yn cynnwys unrhyw gyfraniadau a ddarparwyd gan Adran y Gymraeg ac Addysg na thaliadau blynyddol ychwanegol Cynyddran Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol ar gyfer Hyfforddiant (SIFT). Mae SIFT yn cydnabod costau ychwanegol sefydliadau’r GIG am ddysgu myfyrwyr meddygol a deintyddol, a chynnig lleoliad iddynt, yn rhan o’u hastudiaethau israddedig ledled Cymru.