Faint o fyfyrwyr fydd yn dechrau cyrsiau meddygaeth yn yr ysgol feddygol ym Mangor ym mis Medi hwn, a faint o'r rheiny sydd yn hanu o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol?
Mae hyd at 80 lle ar gael i fyfyrwyr ddechrau astudio meddygaeth ym Mangor mis Medi eleni.
Hyd yma mae 61 cynnig wedi’u rhoi i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, ond ni fydd pob myfyriwr yn derbyn y cynnig, gan fod myfyrwyr yn gwneud sawl cais i wahanol ysgolion. Fodd bynnag, mae gan y sawl sydd wedi cael cynnig hyd at 5 Mehefin i'w dderbyn. Yn y pen draw, ni fyddwn yn gwybod manylion yr union niferoedd tan ar ôl diwrnod canlyniadau’r arholiadau Safon Uwch, gan fod y cynigion yn amodol ar gyrhaeddiad academaidd.
Ni chaniatawyd ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol, ond bydd unrhyw fylchau sy'n weddill o ran nifer y myfyrwyr yn cael eu llenwi drwy’r system glirio. Ni fydd manylion statws cenedligrwydd/domisil y myfyrwyr yn y DU yn hysbys nes i’r broses hon ddod i ben.