WQ93009 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/05/2024

Beth yw cost hyfforddi deintydd yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 31/05/2024

Daeth hyfforddiant deintyddol sylfaenol yn orfodol ar 1 Hydref 1993, gan ei gwneud yn ofynnol i holl raddedigion ysgolion deintyddol Prydain fod â thystysgrif yn dangos eu bod wedi cwblhau cwrs cymeradwy (neu brofiad cyfatebol i’r cwrs hwnnw) cyn iddynt allu dod yn gyflawnydd mewn contract gyda’r GIG. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu hyfforddiant deintyddol sylfaenol yng Nghymru.

Mae costau darparu lleoedd hyfforddiant deintyddol sylfaenol yng Nghymru (ar ôl graddio) yn gyfwerth ag oddeutu £142,454 fesul hyfforddai ac mae’n cael ei ariannu o’r gyllideb iechyd.

Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag astudiaethau deintyddiaeth israddedig nac unrhyw daliadau a wneir i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru o dan gynllun bwrsariaeth GIG Cymru neu gymorth a roddir gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.