Ymhellach i WQ81031, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd gyda gwaith dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn llywodraeth leol?
Ers i’r Llywodraeth ymateb i WQ81031, mae Gweinidogion Cymru wedi parhau i weithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol i’w hannog o ddifrif i wneud cynnydd pellach ar ddatgarboneiddio pensiynau llywodraeth leol Cymru. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i gyfarwyddo penderfyniadau buddsoddi’r awdurdodau pensiynau. Mae penderfyniadau buddsoddi yn cael eu gwneud gan aelodau etholedig o 8 awdurdod pensiynau llywodraeth leol Cymru a Phartneriaeth Pensiwn Cymru. Mae angen i awdurdodau pensiynau ddeall yr effeithiau, y risgiau a’r cyfleoedd o ran yr hinsawdd a ddaw yn sgil eu penderfyniadau buddsoddi, ac ymateb iddynt. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi cyhoeddi cynllun ac asesiad o’r cynnydd ar gyfer y gyfran gynyddol o’r £22bn o asedau pensiwn llywodraeth leol sydd o dan ei reolaeth yn ei Adroddiad Hinsawdd Cymru Gyfan ym mis Chwefror eleni. wpp-2023climatereport-cymraeg_12032024.pdf (partneriaethpensiwncymru.org)