WQ92948 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau faint o bractisau'r gwasanaeth deintyddol cyffredinol yng Nghymru sy'n darparu gofal ar y GIG yn unig a chadarnhau lleoliadau y practisau hynny?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 30/05/2024

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw nac yn cyhoeddi gwybodaeth ynghylch practisau deintyddol sy’n gweithredu ar sail y GIG yn unig.