A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r ffigyrau diweddaraf o ran cyfanswm y diswyddiadau a) gwirfoddol; a b) gorfodol disgwyliedig fydd wedi’u gwneud yn ysgolion Cymru yn ystod y flwyddyn addysgol hon pan fydd yn gorffen ar 31 Awst 2024 ?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 29/05/2024
Nid oes gan Lywodraeth Cymru y data hyn. O dan y fframwaith rheoleiddio a’r trefniadau i reoli ysgolion yn lleol, ysgolion unigol a chyrff llywodraethu sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau am staffio yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ynghylch recriwtio a chadw staff o fewn eu hysgol.