WQ92827 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/05/2024

Pa asesiad diweddar mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ynghylch faint o gyfraniadau pensiwn gweithwyr Cymru gaiff eu talu mewn i gronfeydd pensiwn sy'n cadw'r budd yng Nghymru ac sy'n buddsoddi mewn gweithgareddau cynaliadwy?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 22/05/2024

Mae pensiynau galwedigaethol a phersonol yn faterion a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Cymru 2017. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad a yw cyfraniadau pensiwn gan weithwyr Cymru yn cael eu cadw yng Nghymru, nac ychwaith a ydynt yn cael eu buddsoddi mewn gweithgareddau cynaliadwy.  

Cynlluniau nad ydynt yn cael eu hariannu yw’r mwyafrif helaeth o gynlluniau pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus. Maent yn gweithredu ar sail ‘Talu Wrth Fynd’, sy’n golygu nad oes cronfa o asedau sy’n cael ei buddsoddi ac a ddefnyddir i dalu buddion pensiwn. Nid oes cronfeydd yn gysylltiedig â’r rhan fwyaf o bensiynau’r sector cyhoeddus yng Nghymru felly.  

Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gynllun a ariennir, hynny yw, o dan y cynllun hwn, mae cronfeydd yn cael eu buddsoddi i ariannu’r taliadau pensiwn ar gyfer yr aelodau. Mae penderfyniadau ynglŷn â buddsoddi cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael eu gwneud yn lleol gan yr awdurdodau gweinyddu, yn unol ag egwyddorion cyfreithiol cyffredinol (dyletswyddau ymddiriedol ac egwyddorion y gyfraith gyhoeddus) a deddfwriaeth y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Llywodraeth y DU sy’n gosod y ddeddfwriaeth ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. 

Gall pensiynau’r sector preifat fod yn rhai sy’n cwmpasu’r DU gyfan a gallant fod wedi eu cyfuno ar draws ystod o asedau, ar draws gwahanol farchnadoedd ariannol, a’u rhoi i mewn i gynhyrchion ariannol cymhleth. Mae’n dipyn o her, felly, i fynd ati i olrhain buddsoddiadau olynol gan set benodol o gyfranwyr. Nid ydym yn ymwybodol o ffynhonnell briodol a all nodi ymhle y mae cronfeydd pensiwn preifat gan weithwyr penodol, fel y rheini sydd o Gymru, yn cael eu buddsoddi.