WQ92826 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/05/2024

Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi gwneud o faint o'u hincwm mae pobl yn Arfon ac ar draws Cymru yn ei wario ar daliadau rhent a thaliadau morgais, ac o effaith y taliadau yma ar ffyniant economaidd a mynd i'r afael â thlodi?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 21/05/2024

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad o faint o incwm pobl yn Arfon neu yng Nghymru sy’n cael ei wario ar daliadau rhent a morgais, a’r effaith mae’r taliadau hyn yn ei chael ar ffyniant economaidd a threchu tlodi.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwybod am unrhyw ffynonellau data sy’n nodi faint o arian sy’n llifo i mewn ac allan o Gymru oherwydd taliadau morgais. Mae morgeisi’n cael eu cynnig i gwsmeriaid ledled y DU, ac felly bydd y trefniadau ariannol sy’n sail i’r morgeisi hyn ar gyfer y DU gyfan.

Yn fwy cyffredinol ac wrth edrych ar Gymru a’r DU yn ei chyfanrwydd, bydd taliadau rhent a llog morgeisi’n adlewyrchu safiad ariannol cyfyngol Banc Lloegr sydd â’r nod o ddod â chwyddiant yn ôl i’r targed o ddau y cant. O ganlyniad, bydd y cyfraddau morgais uwch yn cael effaith negyddol ar wariant yng Nghymru a ledled y DU. Bydd yr effaith mewn unrhyw leoliad penodol yn dibynnu ar y graddau y mae pobl yn berchen yn llwyr ar eu cartrefi, yn eu rhentu neu’n talu morgais arnynt. O ran y sector rhentu, bydd y taliadau morgais uwch yn tueddu i gael eu trosglwyddo i daliadau rhent uwch.

Ar gyfartaledd cododd costau aelwydydd y DU, fel y maen nhw’n cael eu mesur gan Fynegeion Costau Aelwydydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 5% yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2023, yn dilyn cynnydd o 12.4% yn 2022. Mae costau cartrefi wedi codi 24.7% ers mis Rhagfyr 2019. Costau morgeisi uwch fu prif achos y cynnydd diweddar hwn. Mae dadansoddiadau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos mai’r perchnogion tai a chanddyn nhw’r morgeisi mwyaf oedd y mwyaf agored i’r cynnydd hwn mewn costau tai perchen-feddianwyr, sydd yn aml yn cynnwys pobl o oedran gweithio â phlant a chanddyn nhw fwy o incwm rhydd na’r cyfartaledd. Dim ond ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd y mae’r wybodaeth hwn ar gael.

Rydyn ni’n cydnabod yr effaith y gall taliadau morgais uwch ei chael ar aelwydydd yng Nghymru, a’r llynedd gwnaethon ni gyhoeddi cymorth ar gyfer perchnogion cartrefi sy’n profi anawsterau o ganlyniad i’r argyfwng costau byw a phroblemau ariannol eraill. Mae Cymorth i Aros Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chymorth a gynigir gan ddarparwyr morgeisi drwy Siarter Morgeisi’r DU ar gyfer cwsmeriaid sy’n ei chael yn anodd talu eu morgeisi.