WQ92813 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/05/2024

Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o hyd a lled defnydd rhyngwynebau technoleg gwybodaeth Cymraeg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 21/05/2024

Yn y sector addysg, rydyn ni wedi newid iaith ryngwyneb ddiofyn Microsoft Office 365 o fewn Hwb o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gyfer 78,086 o ddysgwyr mewn 379 o ysgolion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Er bod y dechnoleg ar gael, sefydliadau lleol sy’n gwneud y penderfyniad ynghylch ei defnyddio. Rydyn ni’n rhoi cymorth a chyngor i’w gwneud yn haws i bobl ym mhob sector ddefnyddio rhagor o Gymraeg ar ryngwynebau technoleg.

Yn ein strategaeth fewnol ar gyfer defnyddio’r Gymraeg, Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd, gwnaethon ni nodi y byddwn ni’n sicrhau bod ein staff sy’n siarad Cymraeg yn gallu cael mynediad at ryngwynebau Cymraeg y dechnoleg rydyn ni’n ei defnyddio, heb orfod gofyn am hynny.

Mae cwmnïau sy’n gweithio yn y maes hwn sy’n gallu cynnig y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei ariannu ag arian cyhoeddus a byddai angen i sefydliad unigol benderfynu a yw’n defnyddio’r gwasanaeth.

Mae cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg bob amser wedi bod yn flaenoriaeth gen i, a bydd hyn yn rhan bwysig o’n rhaglen waith nesaf ar gyfer technoleg Gymraeg.