WQ92811 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am argaeledd gwasanaethau'r cynllun pensiwn athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 17/05/2024

Nid yw’r cynllun pensiwn athrawon wedi’i ddatganoli, felly mae’r Adran Addysg yn Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol amdano. Mae’r wefan Teachers' Pensions yn cynnwys opsiwn i gael cyfieithiad Cymraeg o unrhyw un o’r dogfennau pensiwn athrawon.