WQ92793 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2024

Pa ystyriaeth mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi i osod gofyniad ar ymgeiswyr mewn etholiadau cyngor tref a chymuned i ddatgan aelodaeth o blaid wleidyddol sydd wedi bod ganddynt yn y 12 mis cyn etholiad, fel sydd ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol a’r trefniadau arfaethedig ar gyfer etholiadau’r Senedd?

Wedi'i ateb gan Cwnsler Cyffredinol | Wedi'i ateb ar 16/05/2024

Caiff cynghorau cymuned eu hethol yn ddemocrataidd a nhw yw ein lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth. Mae’r gofyniad hwn eisoes mewn grym yn Rheol 5(3)(c) a Rheol 8 o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021, ac mae’n rhan o ffurflen enwebu ymgeiswyr i gynghorau cymuned.