WQ92784 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2024

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar gyflawniad argymhelliad 18 adroddiad Cyfnod 1 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) y Pwyllgor Biliau Diwygio?

Wedi'i ateb gan Cwnsler Cyffredinol | Wedi'i ateb ar 17/05/2024

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnull Bwrdd Cyflawni ar Ddiwygiad Etholiadol y Senedd, ac mae gwaith ymgysylltu ar y gweill gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys ar y mater o gydlynu ymgyrchoedd gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth cenedlaethol a lleol am y diwygio etholiadol. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob dau fis.

Mae gan nifer o sefydliadau hefyd rolau a chyfrifoldebau statudol yn hyn o beth, gan gynnwys Comisiwn y Senedd, y Comisiwn Etholiadol ac Awdurdodau Lleol. Bydd gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol hefyd ran i’w chwarae os bydd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn cael ei basio gan y Senedd. Mae’n bwysig bod dyletswyddau a phwerau statudol pob sefydliad unigol yn cael eu parchu. Ar yr un pryd, mae awydd cyffredin i sicrhau bod ymgyrchoedd gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth cenedlaethol a lleol am y diwygiadau etholiadol yn cael eu cynllunio a’u cydlynu’n effeithiol ac yn effeithlon, i osgoi dyblygu ac i wella effeithiolrwydd yr ymgyrchoedd hynny.

Bydd cael Cydsyniad Brenhinol i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn garreg filltir bwysig i alluogi paratoi ymgyrchoedd o’r fath. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â gwybodaeth gyhoeddus a gwella ymwybyddiaeth wedi’u hystyried yn flaenorol fel rhan o Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil.