WQ92774 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/05/2024

Faint o ddysgwr sy'n derbyn gwersi chwarae offeryn yn yr ysgol, fesul sir ac oed yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 17/05/2024

Mae'r wybodaeth a nodir isod wedi'i darparu gan y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol. Y corff arweiniol yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). 

Er cyd-destun, roedd yr arolwg data ar gyfer Blwyddyn 1 rhaglen y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol (2022-23), a'r arolwg data hanner ffordd ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24, yn gofyn yn benodol am wybodaeth am niferoedd dysgwyr, nid oedran y dysgwyr. Fodd bynnag, bydd dadansoddiad llawn o oedran dysgwyr llinyn Blwyddyn 2 y rhaglen ar gael ym mis Hydref 2024.

Cyfanswm nifer y dysgwyr sydd wedi cael cefnogaeth hyd yma i ddysgu chwarae offeryn cerddorol, drwy sesiynau addysgu un-i-un a grwpiau bach, yw 53,056 (23,474 ym Mlwyddyn 1 rhaglen y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, a 29,562 ym Mlwyddyn 2).

Mae'r niferoedd hyn, nad ydynt yn cynnwys y data eraill ar gyfer y rhaglen 'Profiadau Cyntaf', yn rhoi amcan o gyfanswm nifer y dysgwyr sy'n derbyn hyfforddiant cerddoriaeth un-i-un mewn ysgolion ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol wrthi'n dilysu'r data ar gyfer 2022-23 a 2023-24, yn dilyn ymarfer casglu data diweddar. Mae manylion ar lefel sir ac oedran yn cael eu coladu fel rhan o'r broses hon; fodd bynnag, ni fydd y wybodaeth hon ar gael nes bydd y broses ddilysu o fewn pob awdurdod lleol wedi'i chwblhau.