Pa ganran o ddysgwyr oed cynradd Cymru gymerodd rhan yn y rhaglen profiadau cyntaf fel rhan o'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, fel ffigwr cenedlaethol a fesul sir yng Nghymru?
Mae'r wybodaeth a nodir isod ar y rhaglen 'Profiadau Cyntaf' wedi'i darparu gan y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol. Y corff arweiniol yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae'r data ystadegol a ddilyswyd ar gyfer Blwyddyn 1 y rhaglen yn dynodi ymgysylltiad â 70 y cant o ysgolion cynradd ac 18 y cant o ddysgwyr ysgolion cynradd.
Mae'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol wedi sefydlu set sylfaenol o ddata, sydd wedi'i hategu â data blynyddol, i gefnogi systemau monitro. Mae'r ffigurau a nodir yn y tablau isod yn deillio o:
- ffurflen ddata Blwyddyn 1 (blwyddyn academaidd lawn 2022-23)
- ffurflen ddata 'hanner ffordd' (tymor yr hydref a'r gwanwyn, blwyddyn academaidd 2023-24)
Disgwylir y ffurflen ddata lawn ar gyfer blwyddyn academaidd lawn 2023-24 ym mis Gorffennaf 2024, a bydd y broses ddilysu yn cael ei chwblhau erbyn mis Hydref 2024.
Trosolwg cenedlaethol:
Mae'r ffigurau isod yn nodi'r nifer o weithiau y gwnaeth y rhaglen 'Profiadau Cyntaf' ddod i gysylltiad ag ysgolion a dysgwyr. Bydd rhai ysgolion a dysgwyr wedi derbyn cymorth o dan y rhaglen yn ystod y ddwy flynedd academaidd. Felly, bydd rhywfaint o ddyblygu yn yr ysgolion a'r dysgwyr a gofnodir yn y ffigurau pennawd isod, rhwng y naill flwyddyn academaidd a'r llall.
|
Ysgolion |
Dysgwyr |
Cymru |
Bl 1: 859 Bl 2 (2 dymor): 842 Cyfanswm: 1,701 |
Bl 1: 48,019 Bl 2: 33,111 Cyfanswm: 81,130 |
Data fesul sir:
Pan fydd gwasanaethau cerddoriaeth yn cwmpasu mwy nag un ardal awdurdod lleol, cyfunir y data isod.
Ardal gwasanaeth cerddoriaeth |
Ysgolion |
Dysgwyr |
Ynys Môn a Gwynedd |
Bl 1: 31 |
Bl 1: 0 |
Conwy |
Bl 1: 0 |
Bl 1: 273 |
Sir Ddinbych |
Bl 1: 57 |
Bl 1: 1,450 |
Sir y Fflint |
Bl 1: 54 |
Bl 1: 2,540 |
Wrecsam |
Bl 1: 60 |
Bl 1: 1,450 |
Powys
|
Bl 1: 36 |
Bl 1: 1,872 |
Ceredigion |
Bl 1: 6 |
Bl 1: 340 |
Sir Gaerfyrddin |
Bl 1: 20 |
Bl 1: 1,540 |
Sir Benfro |
Bl 1: 54 |
Bl 1: 2,055 |
Abertawe |
Bl 1: 81 |
Bl 1: 9,029 |
Castell-nedd Port Talbot (DS amcan-ffigurau a heb eu dilysu) |
Bl 1: 54 |
Bl 1: 3,200 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
Bl 1: 11 |
Bl 1: 485 |
Caerdydd a Bro Morgannwg: |
Bl 1: 127 |
Bl 1: 5,976 |
Gwent (Blaenau Gwent; Sir Fynwy; Casnewydd; Torfaen) |
Bl 1: 120 |
Bl 1: 11,200 |
Rhondda Cynon Taf |
Bl 1: 95 |
Bl 1: 4,694 |
Merthyr Tudful |
Bl 1: 22 |
Bl 1: 807 |
Caerffili |
Bl 1: 31 |
Bl 1: 1,108 |