WQ92685 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2024

Pa gynnydd a wnaed gan y Comisiwn i wneud ystad y Senedd yn gyfeillgar i ddraenogod, er enghraifft drwy gyflwyno priffyrdd draenogod?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 16/05/2024

Rydym bellach yn torri'r glaswellt wrth ochr adeilad y Senedd unwaith y flwyddyn yn unig - gan droi'r darn hwn o dir gwag yn stribed blodau gwyllt, ac yn hafan i bryfed a bywyd gwyllt arall. Gwnaethom hefyd ehangu gardd Tŷ Hywel yn 2021, gan ddyblu ei maint. Erbyn hyn mae'n cynnwys ystod o lwyni aeddfed a blodau sy’n gyfeillgar i beillwyr. Mae giât fawr yn cysylltu'r ddwy ran yma o borthiant amrywiol, gyda bylchau oddi tano sy’n ddigon mawr ar gyfer draenog. Ar ôl adolygu hygyrchedd yr ystad i ddraenogod, gwelsom mai dyma'r ardal yr oeddem am eu hannog i fynd iddi fwyaf. O ystyried bod llawer o weddill ardal agored ein tir yn faes parcio a ffyrdd mynediad, nid oeddem am ddarparu unrhyw dyllau mynediad pellach a allai annog draenogod i fynd i'r ardal sy’n cael ei defnyddio gan gerbydau. 

Byddwn yn parhau i leihau'r gwaith o gynnal a chadw'r llain flodau gwyllt a gardd Tŷ Hywel, rhag ofn i unrhyw ddraenogod gaeafgysgu gael eu haflonyddu.