Pa ofynion neu ddisgwyliadau penodol y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi o ran gallu yn y Gymraeg fesul carfan bob blwyddyn wrth i'r Ysgol Feddygol ym Mangor ddod yn weithredol?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
| Wedi'i ateb ar 07/05/2024
Fel y byddwch yn deall, mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff annibynnol ac ymreolaethol, sy'n gyfrifol am eu materion academaidd a gweinyddol eu hunain, gan gynnwys unrhyw drefniadau o ran sgiliau iaith Gymraeg. Gallaf gadarnhau, fodd bynnag, fod Prifysgol Bangor, fel rhan o'i Strategaeth Ehangu Mynediad, yn ceisio cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg.
Fel rhan o'r strategaeth hon, mae'r Brifysgol wedi cymryd nifer o gamau i wella'r niferoedd hyn, gan gynnwys:
- sicrhau grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer Darlithydd Gwyddorau Meddygol, a fydd yn creu ac yn cyflwyno deunyddiau Cymraeg. Bydd y Coleg yn arwain grŵp Dysgu Seiliedig ar Achos ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg, h.y. os bydd y niferoedd yn caniatáu.
- Gwersi Cymraeg i bob myfyriwr, a gyflwynir gan Ganolfan Bedwyr, sef canolfan o fewn y Brifysgol. Mae tair lefel: cyflwyno myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf i derminoleg feddygol Gymraeg; cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg ail iaith; a darparu gwersi Cymraeg i ddechreuwyr.
- ymgysylltu â 'Doctoriaid Yfory' (sef rhaglen allgymorth i ysgolion uwchradd ledled Cymru), a 'Doctoriaid y Dyfodol' (sef rhaglen gyfatebol yn y Gogledd, a sefydlwyd gydag ysgolion ar draws y Gogledd).
- ymgysylltu â rhwydwaith Seren.
- gwobr ysgrifennu traethawd yn Eisteddfod yr Urdd.
- ysgol haf gan Eisteddfod yr Urdd yng Nglan Llyn.