WQ92674 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2024

Faint o'r myfyrwyr fydd yn dechrau ar eu hastudiaethau meddygol yn yr Ysgol Feddygol newydd ym Mangor ym mis Medi 2024 sydd yn gallu siarad Cymraeg?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 07/05/2024

Mae gan Brifysgol Bangor ofynion cyd-destunol o ran y Gymraeg. Mae hyn yn caniatáu iddi wneud cynnig academaidd mwy ffafriol i ymgeiswyr ar y sail bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu tangynrychioli ar raglenni meddygaeth.

Mae cynnig Prifysgol Bangor ar gael i'r rhai sydd â chymhwyster TGAU mewn Cymraeg iaith gyntaf, neu gymhwyster Safon Uwch mewn Cymraeg ail iaith.

Ar y sail hon, roedd 21 o'r 120 o ymgeiswyr (18%) yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y cwrs blwyddyn gyntaf. Yn ogystal, roedd dau o'r 25 o ymgeiswyr (8%) yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y rhaglen mynediad i raddedigion.