Ymhellach i WQ92440, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau fesul blwyddyn o ba brifysgolion y gwnaeth gweddill y myfyrwyr sy’n gwneud eu hyfforddiant deintyddol sylfaenol yng Nghymru raddio?
Mae’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’w gweld isod:
· Barts and the London, Queen Mary School of Medicine and Dentistry, Y Sefydliad Deintyddiaeth (ym mlynyddoedd 2019/20, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Bryste (Prifysgol), Ysgol Gwyddorau’r Geg a Deintyddol (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Prifysgol Cairo (yn y flwyddyn 2019/20). |
· Canol Swydd Gaerhirfryn (Prifysgol), Yr Ysgol Ddeintyddiaeth (ym mlynyddoedd 2020/21, 2021/22, 2023/24). |
· Y Weriniaeth Tsiec (yn y flwyddyn 2019/20). |
· Glasgow (Prifysgol), Yr Ysgol Ddeintyddol (ym mlynyddoedd 2020/21, 2022/23 a 2023/24). |
· Hwngari (yn y flwyddyn 2021/22). |
· Y Coleg Deintyddol Rhyngwladol Islamaidd (yn y flwyddyn 2021/22). |
· Coleg y Brenin, Llundain, Y Sefydliad Deintyddol (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22 a 2023/24). |
· Prifysgol Swydd Gaerhirfryn (yn y flwyddyn 2022/23) |
· Leeds (Prifysgol), Sefydliad Deintyddol Leeds (ym mlynyddoedd 2019/20, 2021/22, 2022/23). |
· Prifysgol y Gwyddorau Iechyd Lithwania (yn y flwyddyn 2022/23). |
· Lerpwl (Prifysgol), Ysgol y Gwyddorau Deintyddol (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Manceinion (Prifysgol), Yr Ysgol Ddeintyddiaeth (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Prifysgol Newcastle, Ysgol y Gwyddorau Deintyddol (ym mlynyddoedd 2020/21 a 2023/24). |
· Palacký University Olomouc (yn y flwyddyn 2023/24). |
· Prifysgol Plymouth, Peninsula Schools of Medicine and Dentistry (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Prifysgol y Gwyddorau Meddygol Poznan (yn y flwyddyn 2022/23). |
· Prifysgol Queens Belfast, Y Ganolfan Addysg Ddeintyddol (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21 a 2023/24). |
· Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr (yn y flwyddyn 2022/23). |
· Sheffield (Prifysgol),Yr Ysgol Deintyddiaeth Glinigol (ym mlynyddoedd 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· The Tamil Nadu DR. M.G.R. Medical University (yn y flwyddyn 2021/22). |
· UCAM Universidad Católica San Antonio de Murcia (yn y flwyddyn 2023/24). |
· Universidad Católica de Valencia (ym mlynyddoedd 2019/20, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Universidad Católica de Valencia San Vicente Mártir (yn y flwyddyn 2023/24). |
· Universitat Europea de València (yn y flwyddyn 2021/22) |
· Prifysgol Birmingham, Yr Ysgol Ddeintyddiaeth (ym mlynyddoedd 2019/20, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Prifysgol Debrecen, Yr Ysgol Feddygol (yn y flwyddyn 2022/23). |
Darparwyd yr wybodaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).